Rhanbarth Cymru
Mae CCW yng Nghymru yn cynrychioli defnyddwyr Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy.

Mae ein gwaith yng Nghymru yn cael ei arwain gan Lia Moutselou, sy’n Uwch Reolwr Polisi.
Mae Lia yn arbenigwr polisi profiadol, yn ymarferydd amgylcheddol ac yn eiriolwr defnyddwyr sydd wedi cynrychioli defnyddwyr dŵr trwy’r CCW dros y degawd diwethaf. Fel un sy’n arwain cysylltiad CCW â Llywodraeth Cymru, mae ganddi ddealltwriaeth gadarn o weinyddiaeth a phrosesau datganoledig Cymru, a dealltwriaeth o’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ehangach ledled y DU yn ei meysydd gwaith perthnasol. Mae Lia yn gweithio’n agos gyda chwmnïau dŵr a rhanddeiliaid yng Nghymru bob dydd, ac mae wedi gweithio yn y gorffennol fel arweinydd cydnerthedd CCW. Hefyd, mae wedi cynrychioli defnyddwyr yn ystod tri chylch pennu prisiau trwy broses CCW, fel aelod o’r grwpiau a chyfrannwr arbenigol.
Diolch i gefndir Lia ym maes cyfraith a pholisi amgylcheddol yn y byd academaidd a pholisi cymhwysol, mae hi mewn sefyllfa unigryw i fod yn uwch reolwr yn CCW. Mae ganddi brofiad 16 mlynedd ym meysydd polisi, yr amgylchedd ac adnoddau naturiol, gan amrywio o ddarlithio, helpu i ddatblygu polisi a deddfwriaeth forol ac arfordirol, a dylanwadu ar bolisïau yn ymwneud â rheoli gwastraff, dŵr a defnyddwyr. Mae ei gwaith presennol gyda CCW yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd, arbed dŵr ac adolygu perfformiad y diwydiant dŵr.
Eiriolwyr Defnyddwyr Lleol
Mae Lia a’i thîm yn gweithio gydag Eiriolwyr Defnyddwyr Lleol. Maent yn gwsmer o leiaf un o’r cwmnïau dŵr yng Nghymru ac mae eu gwaith yn canolbwyntio ar y gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau dŵr yn y maes hwn. Rhagor o wybodaeth am Eiriolwyr Defnyddwyr Lleol yng Nghymru.
Ein blaenoriaethau a phynciau cyfredol
-
Help for water customers struggling to pay in Wales
- size: 0.62MB
Datganiadau i’r wasg
-
Adolygiad yn targedu mwy o gefnogaeth i gwsmeriaid sy’n cael trafferth fforddio biliau dŵr
Published on 22nd Oct 2020
Mae mwy o gefnogaeth i gwsmeriaid aelwydydd sy’n cael trafferth fforddio eu biliau dŵr wedi…
-
Y CMA yn cyhoeddi ei Ganfyddiadau Cychwynnol wrth adolygu rheolaethau ar bris dŵr
Published on 29th Sep 2020
Y bore yma, cyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ei Ganfyddiadau Cychwynnol yn dilyn…
-
Water companies in Wales urged to accelerate response to climate change
Published on 3rd Sep 2020
People’s consumption of water in Wales increased in 2019-20 to its highest level in five…
-
Annog cwmnïau dŵr yng Nghymru i gyflymu’r ymateb i’r newid yn yr hinsawdd
Published on 3rd Sep 2020
Cynyddodd defnydd pobl o ddŵr yng Nghymru yn 2019-20 i’w lefel uchaf mewn pum mlynedd.…
-
Cartrefi yng Nghymru mewn perygl o fethu cyfle i gael cymorth gyda’r bil dŵr
Published on 5th Aug 2020
Nid oes gan tua thraean o gwsmeriaid fawr o ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael…
-
Annog cwsmeriaid yng Nghymru i ddod o hyd i ffyrdd o arbed
Published on 12th Feb 2020
Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod cost gyfartalog biliau dŵr yng Nghymru yn debygol o godi…