Read this in English – Darllenwch hwn yn Saesneg

Mae ein strategaeth ddrafft yn nodi’r blaenoriaethau a’r pedair prif ymgyrch a fydd yn siapio ein gwaith dros y tair blynedd nesaf ac yn ein helpu i gyflawni ein nod yn y pen draw – Sicrhau bargen deg i ddefnyddwyr dŵr, nawr ac yn y dyfodol.

Ein pum amcan i’n helpu i gyflawni’r genhadaeth hon yw:

  • Dŵr fforddiadwy i bawb.
  • Gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, ar gyfer defnyddwyr y presennol a’r dyfodol.
  • Gwasanaethau a gaiff eu siapio gan farn cwsmeriaid.
  • Gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pawb.
  • Prosesau cwyno effeithiol a hawdd eu dilyn.

Ein Hymgyrchoedd Stratego

Lluniwyd ein hymgyrchoedd gan adolygiad parhaus o’n blaenoriaethau polisi mewn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr cartref a busnes, a byddwn yn gweithio’n galed dros y misoedd nesaf i ddod â’r rhain yn fyw mewn ffordd sy’n atseinio gyda defnyddwyr. Mae ein gwaith ar gwynion defnyddwyr yn darparu cefnogaeth ar unwaith i ddefnyddwyr dŵr pan fydd ei angen arnynt fwyaf ac – ynghyd â’n hymchwil – mae’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr inni o’r materion y mae angen eu datrys.

Er mwyn cyflawni ein cenhadaeth, bydd ein gwaith yn blaenoriaethu pedair ymgyrch strategol allweddol:

Rhoi diwedd ar dlodi dŵr

Pam ei fod yn bwysig?

Hyd yn oed cyn effaith economaidd Covid-19, dywedodd un aelwyd o bob 10 yng Nghymru a Lloegr wrthym eu bod yn cael trafferth i fforddio eu bil dŵr.

Mae cwmnïau dŵr yn cynnig help trwy dariffau cymdeithasol, ond mae yna ddwy broblem allweddol gyda’r tariffau hyn:

    1. Cymorth tameidiog: er bod cwsmeriaid yn gymwys i gael y tariff mewn rhai rhannau o Gymru a Lloegr, nid ydynt yn gymwys i’w gael mewn rhannau eraill. Mae lefel y cymorth yn amrywio o ranbarth i ranbarth.
    2. Diffyg cyllid: Nid oes digon o arian i helpu pawb sydd angen help. Pobl dan 25, pobl dros 75, pobl Ddu Caribïaidd a grwpiau ethnig lleiafrifol sydd fwyaf tebygol o fethu â chael cymorth ariannol gyda’u biliau.

Rydym eisiau ysgogi newid er mwyn creu system decach a all gynnig help ystyrlon i bawb sy’n cael trafferth i dalu eu biliau.

I gyflawni ein hymgyrch, byddwn yn:

    • Gweithio gyda Llywodraethau i gyflwyno newidiadau a argymhellir gan Adolygiad Fforddiadwyedd Dŵr CCW er mwyn gwella cynlluniau cymorth i gwsmeriaid. Byddwn yn gwneud hyn trwy ymgysylltu ag Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd i ychwanegu eu cefnogaeth at ein hymgyrch.
    • Annog hyrwyddwyr defnyddwyr o fath arall i ymuno gyda ni yn ein galwad am newid.
    • Siarad ar y cyfryngau er mwyn galw am newid.

O ganlyniad, rydym am weld:

    • Bydd nifer y cwsmeriaid sy’n dweud y gallant fforddio talu eu bil yn cynyddu i 100% erbyn 2030.
    • Bydd tariffau cymdeithasol newydd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dod â’r cymorth ariannol tameidiog i ben, erbyn 2050.

CCW: llais ar gyfer eich cwyn

Pam ei fod yn bwysig?

Mae rhai defnyddwyr dŵr yn colli’r cyfle i ddefnyddio ein gwasanaeth rhad ac am ddim – gwasanaeth a allai eu helpu i ddatrys eu cwyn yn erbyn eu darparwr dŵr neu eu darparwr carthffosiaeth.

Os na fydd defnyddwyr yn mynd ar drywydd eu cwyn, efallai y byddant yn colli cyfle i gael ad-daliad, iawndal neu helpu o ran datrys y broblem gyda’r cyflenwad dŵr neu’r gwasanaeth carthffosiaeth. Nid yw hyn yn ymddangos yn deg.

Mae gwneud yn siŵr fod defnyddwyr yn gwybod pwy yw eu hyrwyddwr defnyddwyr yn gam mawr tuag at sicrhau y gall defnyddwyr gael ein help a’n cymorth pan fyddant ei angen.

I gyflawni ein hymgyrch, byddwn yn:

    • Cynnal ymgyrchoedd polisi mawr eu heffaith er mwyn sicrhau bod brand CCW yn weladwy i ddefnyddwyr dŵr.
    • Ymdrin â materion systematig trwy rannu arferion gorau er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i ddefnyddwyr.
    • Gwella ein perfformiad yn barhaus mewn perthynas â delio gyda chwynion a’n rôl yn y broses gwyno gyffredinol.
    • Defnyddio’r cyfryngau i roi llais croyw i faterion yn ymwneud â defnyddwyr dŵr ac i godi ymwybyddiaeth o’n rôl.
    • Cynyddu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gwneud ein gwasanaethau’n fwy gweladwy, yn cynnwys defnyddio astudiaethau achos.
    • Ein gwneud ein hunain yn fwy gweladwy i ddefnyddwyr trwy sicrhau bod brand a gwasanaeth CCW yn glir i ddefnyddwyr ar wefannau cwmnïau dŵr.
    • Ein gwneud ein hunain yn fwy gweladwy ‘ar lawr gwlad’ yn dilyn digwyddiadau mawr yn ymwneud â chyflenwadau dŵr, trwy ddefnyddio ymgyrchoedd postio i gyrraedd y defnyddwyr hynny nad ydynt ar-lein.

O ganlyniad, rydym am weld:

    • Bydd ymchwil defnyddwyr yn dangos bod ymwybyddiaeth o CCW wedi cynyddu erbyn 2025.
    • Bydd bodlonrwydd defnyddwyr gyda gwasanaeth CCW wedi cynyddu i 80% erbyn 2025.
    • Gwelir gostyngiad o 15% yn y cwynion a anfonir at CCW gan aelwydydd a busnesau erbyn 2025, wrth i arferion gorau gael eu hymwreiddio mewn cwmnïau gyda’n cymorth ni.

Rhoi diwedd ar lifogydd carthffosydd

Pam ei fod yn bwysig?

Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno mai dioddef llifogydd carthffosydd – naill ai oddi mewn neu oddi allan i’n cartref – yw un o’r ffyrdd gwaethaf y gall ein cwmni dŵr gwastraff fethu â chyflawni ei ddyletswyddau. Ni ddylai hyn ddigwydd; eto i gyd, yn 2019-20 fe ddioddefodd mwy o dai a busnesau lifogydd carthffosydd. Cynyddodd y raddfa oddeutu 14% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Rhywbeth sy’n waeth fyth yw pan na fydd yr iawndal a delir gan gwmnïau dŵr yn ddigon i dalu am y costau. Ar ben hyn, gall y gwaith clirio neu’r help tuag at gynnydd mewn premiymau yswiriant fod yn araf. Pe na bai hyn yn ddigon drwg, mae rhai aelwydydd yn dioddef llifogydd o’r fath fwy nag unwaith. Rydym o’r farn fod angen i hyn oll newid.

Dyna pam rydym eisiau gwella safonau’r gwasanaeth ar gyfer y rhai sy’n dioddef Llifogydd Carthffosydd, ynghyd â sicrhau cymorth ac iawndal ychwanegol i’r rhai sy’n dioddef llifogydd carthffosydd dro ar ôl tro.

Ond nid trwsio pethau’n ofalus pan fyddant yn mynd o’u lle yw’r unig beth sy’n bwysig. Rydym eisiau gweld cwmnïau dŵr gwastraff yn rhoi stop ar y llifogydd cyn iddynt ddigwydd trwy gynllunio’n well a thrwy ragweld yn well ble bydd problemau’n digwydd.

I gyflawni ein hymgyrch, byddwn yn:

    • Cymryd camau i gael gwared â’r cafeat ‘tywydd eithriadol’, sy’n golygu nad yw cwmnïau dŵr gwastraff yn gorfod talu.
    • Cael cwmnïau dŵr i ymrwymo i glirio a glanhau ar ôl llifogydd carthffosydd bob tro y bydd eu hased nhw yn gyfrifol am y llifogydd.
    • Cael cwmnïau dŵr i ymrwymo i ymateb o fewn 2 awr i lifogydd carthffosydd oddi mewn i adeiladau ac o fewn 4 awr i lifogydd carthffosydd oddi allan i adeiladau.
    • Sicrhau bod yr iawndal yn cyd-fynd â’r byd go iawn, er enghraifft talu tâl-dros-ben yswiriant y cwsmer fan leiaf.
    • Gweithredu dros y rhai sy’n dioddef llifogydd dro ar ôl tro, fel y gellir ymchwilio i’r broblem a’i datrys, gan gynyddu’r iawndal yn raddol hyd nes y caiff y mater ei ddatrys.

O ganlyniad, rydym am weld:

    • Erbyn 2022 bydd mwy o gymorth ac iawndal ar gael i’r rhai sy’n dioddef llifogydd carthffosydd dro ar ôl tro.
    • Rydym eisiau cael amseroedd clirio/glanhau safonol erbyn 2022, ynghyd ag adolygu’r iawndal a gynigir.
    • Rydym eisiau cael gwared â’r cafeat ‘tywydd eithriadol’ o bolisïau’r cwmnïau erbyn 2022.

Gwybod pa help sydd ar gael

Pam ei fod yn bwysig?

Mae pob un ohonom angen help ychwanegol o dro i dro. I rai ohonom, rhywbeth yn y tymor byr fydd hyn, pan fyddwn newydd ddod adref o’r ysbyty neu wedi cael baban newydd. Ond mae rhai ohonom – pobl anabl neu bobl â phroblemau iechyd hirdymor – angen rhywfaint bach o help ychwanegol drwy’r adeg.

Dyma pam mae gan gwmnïau dŵr gofrestri gwasanaethau â blaenoriaeth. Pan fydd cwmnïau dŵr yn gwybod pa rai o’u defnyddwyr sydd angen help ychwanegol (hyd yn oed pe bai hynny am gyfnod byr yn unig), gallant dargedu’r help hwnnw pe bai rhywbeth yn mynd o’i le ar y cyflenwad dŵr, pe bai angen gwybodaeth ar ffurf braille, neu pe na baech yn hoffi ateb y drws i ddieithriaid.

Dim ond 42% o ddefnyddwyr sy’n ymwybodol o’r help hwn, ac nid ydym o’r farn fod hyn yn ddigon. Rydym eisiau i gwmnïau dŵr sicrhau bod eu cwsmeriaid i gyd yn gwybod am y gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth, a chael mwy o bobl i roi eu henwau arni. Fe fyddwn ninnau’n chwarae ein rhan hefyd.

I gyflawni ein hymgyrch, byddwn yn:

    • Gofyn i Lywodraethau Cymru a Lloegr wella’r modd y rhennir gwybodaeth ar draws adrannau a sicrhau y gall cwmnïau dŵr gael mynediad at ddata swyddogol ynglŷn â phwy sydd angen help.
    • Defnyddio ein dylanwad gyda chwmnïau dŵr i wneud iddynt ganolbwyntio mwy ar godi ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r help sydd ar gael, a monitro nifer y cwsmeriaid sy’n gofyn am yr help ychwanegol hwnnw.
    • Targedu ein negeseuon cyfathrebu at rannau o’r gymdeithas a fyddai’n elwa ar wybod am y cofrestri, yn cynnwys cyfleu’r neges i ddefnyddwyr pan aiff rhywbeth o’i le yn annisgwyl ar eu cyflenwad dŵr. Byddwn yn sicrhau bod ein gwybodaeth yn hygyrch i bawb, gan sicrhau hefyd ei bod ar gael mewn sawl iaith.
    • Ein gwneud ein hunain yn fwy gweladwy ‘ar lawr gwlad’ yn dilyn digwyddiadau mawr yn ymwneud â chyflenwadau dŵr, trwy ddefnyddio ymgyrchoedd postio i gyrraedd y defnyddwyr hynny a allai fod angen help ychwanegol.

O ganlyniad, rydym am weld:

    • Ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r gofrestr gwasanaethau blaenoriaeth yn cynyddu i 60% erbyn 2025 ac i 75% erbyn diwedd 2030.
    • Nifer y defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gofrestrau gwasanaethau blaenoriaeth cwmnïau’n cynyddu i 4.5% erbyn 2023 – carreg filltir tuag at eu gofyniad ymrwymiad perfformiad cyffredinol o 7% erbyn 2025.
Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgyrchoedd hyn a’n rhai yn y strategaeth ddrafft lawn:

Yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yn hyn

Rydym yn costio tua 22c i bob talwr biliau yng Nghymru a Lloegr i ddarparu ystod enfawr o fuddion i ddefnyddwyr yn ystod 2019-20, a oedd yn cynnwys:

Water meter showing usage

Mwy na £15 miliwn yr arbedion biliau posibl roedd miloedd o aelwydydd yn gallu eu canfod drwy ddefnyddio ein cyfrifiydd mesurydd dŵr.

Piggy bank with calculator

Ychydig dros £4 miliwn mewn taliadau lles posibl y gallai miloedd o aelwydydd sy’n brin o arian eu hawlio ar ôl defnyddio ein Cyfrifydd Budd-daliadau.

a young woman sits at home at night , going through her domestic bills and comparing them with comparison websites using her digital tablet .

Bron i 750,000 o aelwydydd incwm isel bellach yn cael biliau is drwy gynlluniau tariff cymdeithasol cwmnïau dŵr, y buom yn cynorthwyo’r diwydiant i’w datblygu a’u hyrwyddo.

Studio portrait of a young woman looking through a magnifying glass against a brown background

Cynhaliwyd 142 o ymchwiliadau gennym lle’r oeddem yn teimlo bod y ffordd yr ymdriniwyd â chwyn gan gwmni dŵr neu fanwerthwr wedi bod yn wael ac nad oedd yn sicrhau canlyniad teg i’r defnyddiwr.

New Twenty pound notes released 20 Feb 2020. Macro close up of this new polymer note with pound coins on top of it

Bron i £1.5 miliwn mewn iawndal ariannol y gwnaethom helpu i’w sicrhau i ddefnyddwyr ar ôl datrys eu cwynion yn erbyn cwmnïau dŵr neu fanwerthwyr dŵr.

Customer service feedback

Comisiynwyd 4 adroddiad ymchwil mawr gennym i ehangu ein dealltwriaeth o farn defnyddwyr gan ymgyrchu dros newidiadau gan y diwydiant dŵr, rheoleiddwyr a llywodraethau.

Close up head shot smiling friendly Indian woman wearing headset

Buom hefyd yn cefnogi pobl gyda mwy na 2,000 o ymholiadau am eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth

Businessman wearing headset using computer

Mwy na 10,000 o gwynion am gwmnïau dŵr a manwerthwyr dŵr lle y bu’n tîm cysylltiadau defnyddwyr yn helpu defnyddwyr i’w datrys. Buom hefyd yn cefnogi pobl gyda mwy na 2,000 o ymholiadau am eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.

Sut i ymateb

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar ein strategaeth ddrafft ar gyfer 2021-24. Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn trwy gysylltu â Jenny Suggate, Uwch Reolwr Polisi, yn Jennifer.suggate@ccwater.org.uk erbyn 8 Chwefror 2021 gyda’ch barn. Mae ein rhybudd diogelu data yn nodi sut y byddwn yn defnyddio’ch data personol at ddibenion yr ymgynghoriad hwn ac yn egluro’ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)