Cartrefi yng Nghymru mewn perygl o fethu cyfle i gael cymorth gyda’r bil dŵr

  • Nid oes gan tua thraean o gwsmeriaid fawr o ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael gan y cwmnïau dŵr ac maen nhw’n llai tebygol o gysylltu â nhw am gymorth – yn ôl arolwg blynyddol y corff defnyddwyr CCW
  • Pobl dan 25 oed, dros 75 oed a lleiafrifoedd ethnig sydd fwyaf mewn perygl o fethu â sicrhau cymorth ariannol gyda biliau
  • Mae 1 o bob 8 aelwyd yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael trafferth fforddio eu bil dŵr
  • Mae’r corff defnyddwyr CCW yn dweud bod yn rhaid i gwmnïau dŵr feithrin perthynas gryfach â chwsmeriaid
  • Mae 66 y cant o gwsmeriaid yng Nghymru yn credu bod prisiau eu cwmni dŵr yn deg – gostyngiad o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

Mae’n rhaid i gwmnïau dŵr yng Nghymru feithrin perthynas gryfach â’u cwsmeriaid er mwyn lleihau’r risg y bydd aelwydydd yn colli cymorth hanfodol gyda’u biliau dŵr a chymorth arall pan fyddant yn wynebu cyfnodau anodd.

Mae arolwg blynyddol y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) Water Matters wedi datgelu nad oes gan tua thraean o gwsmeriaid ar aelwydydd fawr ddim ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael gan eu cwmni dŵr.1

Mae CCW – y corff sy’n rhoi llais i ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru – yn ofni y gallai hyn atal rhai o’r aelwydydd yr effeithiwyd arnynt waethaf gan effaith y coronafeirws neu sefyllfaoedd difrifol eraill rhag cael gafael ar gymorth ariannol ac ymarferol gan eu cwmni dŵr.

Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy ill dau yn darparu cynlluniau tariff cymdeithasol a all leihau biliau dŵr aelwydydd incwm isel yn sylweddol. Fodd bynnag, dim ond 1 o bob 20 cwsmer sy’n ymwybodol bod y cymorth hwn yn bodoli.

Mae CCW wedi galw ar y ddau gwmni i wneud ymdrech lew i godi ymwybyddiaeth o gynlluniau cymorth ymhlith y rhai dan 24 oed, pobl dros 75 oed, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a’r rhai heb fynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r cwsmeriaid hyn ymhlith y rhai lleiaf tebygol o estyn allan am gymorth os ydynt yn poeni a ydynt yn gallu fforddio talu eu biliau.

Datgelodd yr arolwg hefyd fod aelwydydd yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau’n fwy bodlon â’u cwmni dŵr na chwsmeriaid yn Lloegr. Fodd bynnag, roedd nifer y cwsmeriaid a oedd yn fodlon eu bod yn cael gwerth am arian (77%) neu fod eu biliau’n deg (66%) yn sylweddol is o gymharu â’r llynedd.

Dywedodd Phil Marshall, Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW): “Mae’r misoedd diwethaf wedi dangos i ni y gall ein bywydau newid yn sydyn iawn ac mae angen i bobl wybod bod eu cwmni dŵr yno i’w cefnogi drwy gyfnodau heriol.”

“Mae gan gwmnïau dŵr yng Nghymru ystod eang o gynlluniau a all helpu cwsmeriaid gyda biliau neu ddarparu cymorth ymarferol ond mae gormod o aelwydydd nad ydynt yn ymwybodol o’r cymorth hwn.”

Mae tua 100,000 o gwsmeriaid yng Nghymru wedi ymuno â thariffau cymdeithasol cwmnïau dŵr ond hyd yn oed wedyn nid yw hynny’n dod yn agos at fynd i’r afael â maint y broblem.

Dywedodd un o bob wyth cwsmer yng Nghymru wrth CCW nad oedden nhw’n gallu fforddio talu eu biliau dŵr ond gallai’r nifer hwnnw dyfu’n sylweddol yn y misoedd i ddod wrth i fwy o aelwydydd gael eu dal yn y storm ariannol sy’n codi yn sgil y pandemig.

Gall cynlluniau eraill fel WaterSure Cymru osod terfyn uchaf ar filiau rhai cwsmeriaid sydd â mesurydd sy’n derbyn budd-daliadau lles ac sy’n gorfod defnyddio llawer o ddŵr oherwydd eu hamgylchiadau. Ond dim ond ychydig dros 1 o bob 10 aelwyd yng Nghymru sy’n ymwybodol o’r cymorth hwn.

Mae angen i gwmnïau dŵr hefyd ymdrechu’n galetach i godi ymwybyddiaeth o’u Gwasanaethau Blaenoriaeth, sy’n rhoi cymorth ymarferol am ddim i gwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus. Mae ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau hyn – sy’n cynnwys darparu dŵr potel i garreg drws cwsmer os oes toriad yn y cyflenwad dŵr – wedi gostwng dros y chwe blynedd diwethaf i 42 y cant yng Nghymru.

Gall y gwasanaethau hyn gynnig achubiaeth i aelwydydd yn ystod cyfnodau o doriad yn y cyflenwad, yn enwedig yr un cwsmer o bob deg sy’n dweud na fyddai dŵr potel wrth law pe baen nhw’n colli eu prif gyflenwad dŵr am fwy nag ychydig oriau.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad gyda CCW, ffoniwch y tîm cyfryngau ar 0121 345 1005.

Categories: Cymraeg, Press Releases, Wales