3 miliwn o aelwydydd yn cael trafferth fforddio biliau dŵr er gwaetha rhagor o gymorth

Mae 1 o bob 8 o aelwydydd yn dal i gael trafferth fforddio eu biliau dŵr, er gwaetha’r twf cyflym yn y cynlluniau sydd gan gwmnïau dŵr i leddfu’r baich ar gwsmeriaid sy’n brin o arian.

Mae adroddiad newydd (Saesneg) y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn dangos fod bron i 700,000 o gwsmeriaid incwm isel wedi derbyn biliau is trwy bob math o gynlluniau cymorth yn 2018/19 – 28% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil grŵp y defnyddwyr yn dangos bod 3 miliwn o gwsmeriaid Cymru a Lloegr yn dal i ddweud bod eu biliau’n anfforddiadwy, a bod potensial y cynlluniau cyfredol ond yn gallu helpu llai na hanner y rhain sy’n cael trafferth talu.

Mae nifer y cwsmeriaid sy’n derbyn cymorth, a’r lefelau cymorth sydd ar gael, yn amrywio’n aruthrol o ranbarth i ranbarth. Roedd y gostyngiadau mewn biliau a ddarparwyd trwy dariffau cymdeithasol wedi’u sybsideiddio gan gwsmeriaid yn amrywio hefyd – o gymaint â £271 i gyn lleied ag £19. Y rheswm pennaf am hyn yw bod effaith y cynllun wedi’i chyfyngu gan y ffaith fod cwmnïau’n dibynnu ar barodrwydd cwsmeriaid eraill i’w ariannu.

Dim ond tri chwmni dŵr – Dŵr Cymru, Yorkshire Water ac United Utilities sy’n cyfrannu peth o’u helw at dariffau cymdeithasol ar hyn o bryd, er gwaethaf galwadau cyson y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ar i gyflenwyr eraill ddilyn eu hesiampl.

Gall hyn olygu bod angen ailfeddwl sut i gyllido cymorth ariannol yn y dyfodol, er mwyn trechu tlodi dŵr go iawn. Gwelodd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr fod cwsmeriaid yn cefnogi’r syniad o ddefnyddio arian cyhoeddus er mwyn rhoi cymorth ariannol i dalu biliau dŵr.

Meddai Andy White, Uwchreolwr Polisi y Cyngor Defnyddwyr Dŵr: “Mae llawer o gwsmeriaid yn diodde’n dawel ac yn aberthu hanfodion eraill fel bwyd a gwres er mwyn talu eu bil dŵr – ddylai neb fyth orfod gwneud y dewis hwnnw.”

“Mae gan gwmnïau’r grym i helpu llawer mwy o aelwydydd sydd mewn trafferth trwy gyfateb yr haelioni a ddangosir eisoes gan gwsmeriaid sy’n sybsideiddio’r tariffau cymdeithasol.”

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod cwmnïau wedi cymryd camau breision o ran sicrhau bod mwy o gwsmeriaid dan amrywiaeth o amgylchiadau anodd yn cofrestru i dderbyn gwasanaethau â blaenoriaeth. Mae’r rhain yn cynnig cymorth ychwanegol er mwyn helpu cwsmeriaid i oresgyn unrhyw rwystrau i ddefnyddio gwasanaethau cwmni dŵr – boed yn anabledd, salwch ac unrhyw broblem hirdymor neu fyrdymor arall. Mae bron i 420,000 o bobl wedi cofrestru am gymorth ychwanegol – bron i 20% yn fwy na’r llynedd.

Ar y llaw arall, mae canran yr aelwydydd sydd ar y gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth yn dal yn isel, ac ymhell o’r targed o 7% yr hoffai Ofwat ei weld erbyn 2025.

Mae angen i’r diwydiant gydweithio mwy er mwyn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau blaenoriaeth a’i gwneud hi’n haws i ffrindiau, perthnasau a chymdogion dynnu sylw cwmnïau at anghenion cymorth eu hanwyliaid.

Hefyd, hoffai’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr weld cwmniau’n gwneud llawer mwy i nodi pa gwsmeriaid sydd angen cymorth dros dro, e.e. oherwydd salwch tymor byr neu enedigaeth plentyn, a gofalu fod y cymorth hwnnw’n cael ei roi ar yr amser cywir – yn enwedig yn ystod cyfnodau o dorri cyflenwad. Mae meithrin partneriaethau atgyfeirio â sefydliadau lleol yn un o’r ffyrdd allweddol y gall cwmniau gyrraedd cwsmeriaid yn yr amgylchiadau hyn.

Mae’r adroddiad llawn a’r argymhellion i’w gweld yma

Categories: Cymraeg, Regions, Wales