Cadwch eich weips o’r peipiau.
Dyna’r cyngor gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ar Ddiwrnod Toiled y Byd (19 Tachwedd)1, sy’n annog aelwydydd o bob cwr o Gymru a Lloegr i ymuno â’r frwydr i leihau’r degau o filoedd o rwystrau yn ein draeniau a’n carthffosydd.
Roedd bom llaw, teganau ‘oedolion’, tŷ gwydr wedi’i dynnu ar led, a ‘space hopper’ yn ddim ond rhai o’r pethau rhyfedd a ddarganfuwyd yn nyfnderoedd ein carthffosydd, wrth i gwmnïau dŵr wario tua £50 miliwn yn 2014/15 yn clirio dros 200,000 o rwystrau a achoswyd gan eitemau amhriodol a roddwyd i lawr y toiled a’r sinc.2
Ond, ni ddaeth yr un o’r eitemau hyn yn agos at gyfateb i’r straen ar y draen sy’n cael ei achosi gan y miloedd o weips gwlyb sy’n cael eu fflysio i lawr y toiled, neu’r seimiau a’r olewau seimllyd sy’n cael eu harllwys i lawr y sinc.
Meddai Steve Grebby, arbenigwr y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ar garthffosiaeth: “Mae llifogydd o garthffosydd yn achosi trafferthion i filoedd o aelwydydd bob blwyddyn, a dyma pam mae cadw’n draeniau a’n carthffosydd yn glir ac yn llifo o fudd i ni i gyd.
“Un ffordd syml iawn i ni allu gwneud hynny yw trwy wneud yn siŵr mai dim ond pî-pî, pŵ a phapur sy’n cael eu fflysio i lawr y toiled.”
Yn ôl ymchwil y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, mae nifer gynyddol o gwsmeriaid (64% yn 2014 o gymharu â 43% yn 2013) yn gallu dweud pa eitemau na ddylid eu fflysio i lawr y toiled3. Ond, weips gwlyb a rhai sy’n ‘gallu cael eu fflysio’, yn honedig, oedd yn gyfrifol am hyd at draean o rwystrau mewn carthffosydd mewn rhai rhannau o Gymru a Lloegr.
Ac, yn y pen draw, cwsmeriaid sy’n gorfod talu’r pris am ddatrys y broblem, trwy eu biliau dŵr a charthffosiaeth.
Felly, mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn gofyn i aelwydydd gofio’r gair i gall sydd ganddo ar gyfer cadw peipiau’n glir:
- FFLYSIO DIM OND – y 3 ‘P’ – Pî-pî, Pw a Phapur tŷ bach i lawr y toiled.
- PEIDIO Â FFLYSIO – eitemau eraill gan gynnwys weips gwlyb, weips cewynnau neu weips ‘sy’n gallu cael eu fflysio’, yn honedig; cewynnau; pinnau cotwm; hancesi papur; bagiau a gorchuddion plastig; tywelion misglwyf; plastrau a gwm cnoi. Rhowch nhw mewn bag, mewn bin, yn lle hynny.
- PEIDIO AG ARLLWYS – seimiau ac olewau coginio i lawr y sinc neu’r draen. Yn hytrach, CADWCH FAGL SAIM neu flwch yn y gegin i gasglu saim ac olew gwastraff. Bydd llawer o gwmnïau dŵr yn rhoi magl saim i chi am ddim.
- GALLWCH ADAEL – ychydig bach o saim ac olew i oeri ac yna’i grafu i flwch neu bapur newyddion cyn ei daflu i’r bin
(Diwedd)
NODIADAU I OLYGYDDION
Yr eitemau sy’n creu trafferth yn ein carthffosydd – 2014/15
Cwmni carthffosiaeth (Cymru a Lloegr) |
Rhwystrau mewn carthffosydd wedi’u hachosi gan seimiau, olewau ac eitemau eraill nad ydynt yn fioddiraddadwy | Yr eitemau rhyfeddaf a dynnwyd o weithfeydd carthffosiaeth/ gwastraff |
Anglian Water | 10,700 | Dannedd dodi, cymeriadau bach plastig i blant, peli golff, ffonau symudol. |
Dŵr Cymru | 24,000 | Beic modur mini; pen mop, trowsus, pyst ffens. |
Northumbrian Water | 3,000 | Morthwyl mawr, penglog anifail. |
Severn Trent Water | 31,500 | Beic modur |
Southern Water | 12,400 | ‘Teganau oedolion’, dafad farw, dannedd dodi, nifer o fysedd wedi’u torri i ffwrdd, tedis. |
South West Water | 8,500 | Tŷ gwydr wedi’i dynnu ar led, cyllell gegin 12 modfedd, dillad isaf, dannedd dodi |
Thames Water | 73,500 | Mochyn daear marw, llong chwarae, sbectolau, dannedd dodi. |
United Utilities | 10,800 | Bom llaw, conau’r ffordd, pramiau tegan, dafad farw. |
Wessex Water | 13,000 | Tegan o bysgodyn ‘Nemo’. |
Yorkshire Water | 17,000 | ‘Space hopper’, gemwaith aur, dannedd dodi. |
1 Mae Diwrnod Toiled y Byd yn ddiwrnod o weithredu i godi ymwybyddiaeth o’r oddeutu 2.4 biliwn o bobl ledled y byd sydd heb lanweithdra da. Caiff y diwrnod ei gyd-drefnu gan UN-Water a’i gefnogi gan Lywodraethau ac asiantaethau ac elusennau eraill, gan gynnwys WaterAid.
2 Mae’r ffigurau hyn wedi’u seilio ar amcangyfrifon a ddarparwyd gan bob un o’r deg cwmni dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr.
3 Cymerwyd y ganran o arolwg Water Matters 2014 y Cyngor Defnyddwyr Dŵr o ddefnyddwyr.
Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr – ‘Llais annibynnol cwsmeriaid dŵr’.
Pwy ydym ni?
- Sefydlwyd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn 2005 i gynnig cynrychiolaeth gadarn ar ran cwsmeriaid dŵr yng Nghymru a Lloegr.
- Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol a noddir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Llywodraeth Cymru.
- Rydym yn annibynnol ar gwmnïau dŵr a rheoleiddwyr.
Beth rydym wedi’i gyflawni ar ran cwsmeriaid dŵr?
- Sicrhau y bydd biliau cyfartalog aelwydydd am ddŵr a charthffosiaeth yn disgyn 5 y cant erbyn 2020, cyn ychwanegu chwyddiant, trwy roi cwsmeriaid yn ganolog i Adolygiad Prisiau 2014.
- Helpu dros 300,000 o gwsmeriaid â chwynion neu ymholiadau am eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth a sicrhau dros £20 miliwn o iawndal ac ad-daliadau er 2005.
- Goruchwylio gostyngiad o 55 y cant yn nifer y cwynion gan gwsmeriaid ers cyrraedd uchafbwynt yn 2007/08, trwy herio cwmnïau dŵr i wneud mwy o bethau ‘yn iawn y tro cyntaf’.
- Cyflawni hyn oll a mwy am gost flynyddol o ddim ond 21c y cwsmer dŵr.
www.ccwater.org.uk