Cadeirydd Pwyllgor Cymru yn myfyrio ar daith 10 mlynedd i roi cwsmeriaid yn ganolog i’r diwydiant dŵr

Ar ôl degawd o hyrwyddo buddiannau cwsmeriaid dŵr yng Nghymru, bydd Diane McCrea yn ffarwelio â’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr ar 30 Medi.

Dros y degawd diwethaf fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru ac Is-gadeirydd Bwrdd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, mae Diane wedi chwarae rhan hollbwysig yn troi ffocws cwmnïau dŵr at eu cwsmeriaid a’r materion sydd bwysicaf iddynt hwy.

Wrth i’w chyfnod fel Cadeirydd ddod i ben, mae’n myfyrio ar rai o’r ‘buddugoliaethau mawr’ a sicrhaodd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr i gwsmeriaid yng Nghymru, ac yn Lloegr hefyd.

Sicrhau sedd i gwsmeriaid wrth y bwrdd trafod

Yn fuan ar ôl ffurfio’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn 2005, fe’i gwnaed yn glir iawn i ni gan gwsmeriaid eu bod eisiau cael mwy o gyfle i ddweud eu dweud yn y broses o osod y prisiau ar gyfer eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth. Roedd cynnydd mawr mewn prisiau na ddangosai fawr o ystyriaeth o allu pobl i dalu wedi gwneud drwg i amgyffredion cwsmeriaid ynghylch y diwydiant ac roedd angen i hynny newid.

Aethom ati i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn gwrando ar eu cwsmeriaid a bod eu barn yn cael dylanwad uniongyrchol ar eu cynigion ynghylch prisiau a gwasanaeth. O ganlyniad i’n hymdrechion, sefydlodd y diwydiant Grwpiau Her Cwsmeriaid, a chwaraeodd ran flaenllaw yn cynrychioli buddiannau cwsmeriaid yn ystod Adolygiad Prisiau 2014. Helpodd y grwpiau hyn sicrhau bod cwmnïau dŵr yn canolbwyntio’n fwy o lawer ar gyflwyno’r gwasanaethau yr oedd ar gwsmeriaid eu hangen, am bris a oedd yn dderbyniol iddynt.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd biliau’r rhan fwyaf o aelwydydd yn gostwng cyn chwyddiant – ond byddant yn cael mwy am eu harian. Mae Dŵr Cymru a Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ill dau’n ymroddedig i gyflawni pecynnau buddsoddi enfawr yn y gwasanaethau sydd bwysicaf i gwsmeriaid.

Mae’n golygu y bydd cwsmeriaid yn cael mwy ond, yn dyngedfennol, am lai.

Mwy o gymorth a chefnogaeth i’r rhai sy’n cael trafferth talu

Yn ogystal â cheisio gwneud yn siŵr bod biliau’n cynrychioli gwerth am arian, mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi parhau’n ymroddedig i sicrhau mwy o gymorth i gwsmeriaid sy’n cael anawsterau ariannol. O’r dechrau yng Nghymru, buom yn gweithio gyda Dŵr Cymru fel y gallai gyflwyno tariffau arloesol i helpu pobl ag incwm isel a oedd yn cael trafferth talu eu biliau. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi helpu i sicrhau bod y 34,000 a mwy o gwsmeriaid a oedd yn cael cymorth trwy Gynllun Cymorth Cymru Dŵr Cymru wedi trosglwyddo i dariff newydd y cwmni, HelpU. Ac, rydym yn parhau i weithio gyda Dŵr Dyffryn Dyfrdwy wrth iddo symud tuag at gyflwyno tariff cymdeithasol newydd yn 2016.

Ar ôl helpu i ailfrandio a symleiddio WaterSure, rydym wedi gweithio’n agos gyda chwmnïau dŵr yng Nghymru i hybu’r niferoedd sy’n defnyddio’r cynllun, sy’n helpu i ostwng biliau cwsmeriaid ag incwm isel sydd ag anghenion hanfodol mawr am ddŵr. O ganlyniad i hyn, cofrestrodd nifer fawr o gwsmeriaid am gymorth, gyda 10,500 a mwy o gwsmeriaid bellach wedi ymuno â’r cynllun yng Nghymru. Mae llawer mwy i’w wneud o hyd, serch hynny.

Diffyg ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol a chynlluniau cymorth yw un o’r rhwystrau mawr sy’n parhau i atal cwsmeriaid rhag cael y cymorth y mae arnynt ei angen. Dyna pam mae’n rhaid i ni barhau i fanteisio ar bob cyfle i helpu codi proffil ‘HelpU’, sef y tariff cymdeithasol a lansiwyd yn ddiweddar gan Dŵr Cymru sy’n gallu gostwng biliau dŵr teuluoedd ag incwm isel.

Gostwng nifer y cwynion a sicrhau iawndal o £2.2 miliwn i gwsmeriaid

Yn 2005, fe’n croesawyd gan ddiwydiant a oedd yn euog o fethu cwsmeriaid yn rhy aml o lawer, gyda lefelau uchel o gwynion yn difetha ffydd aelwydydd yn eu cyflenwr dŵr. Cyflwynom her i gwmnïau dŵr gael pethau’n ‘iawn y tro cyntaf’ i gwsmeriaid a buddsoddi mwy o amser, arian ac ymdrech yn trawsnewid eu perfformiad gwael.

Mae ein tîm cyswllt cwsmeriaid a’n heiriolwyr defnyddwyr lleol wedi helpu cwmnïau dŵr yng Nghymru i ateb yr her hon trwy wella’u gwasanaethau, fel bod llai o reswm gan gwsmeriaid i gwyno. O ganlyniad i’r ymdrechion hyn, bu gwelliannau sylweddol, gyda nifer y cwynion ysgrifenedig gan gwsmeriaid ynghylch y ddau gwmni dŵr yng Nghymru yn gostwng bron 70 y cant er 2010.

Dros y deng mlynedd diwethaf, rydym hefyd wedi sicrhau £2.2 miliwn o iawndal i gwsmeriaid yng Nghymru – gan wneud yn siŵr bod aelwydydd a busnesau yn cael eu digolledu pan fydd eu cwmni dŵr wedi’u siomi.

Gwelliant amlwg ym mherfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru

Mae gan gwmnïau dŵr ran hanfodol i’w chwarae yn amddiffyn a diogelu’r amgylchedd naturiol gwerthfawr rydym yn ffodus i’w fwynhau yng Nghymru. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi herio Dŵr Cymru yn llwyddiannus i ostwng effaith ei weithrediadau ar yr amgylchedd a’r adnoddau naturiol. Mae’r cwmni wedi ymateb gyda gostyngiad sylweddol mewn llygriadau, ac wedi cymryd yr awenau wrth ddatblygu atebion draenio cynaliadwy fel GlawLif, sy’n helpu i dynnu dŵr glaw o’r system garthffosiaeth.

Meithrin partneriaethau cryf er budd defnyddwyr

Ni allem fod wedi cyflawni’r rhan fwyaf o’n llwyddiannau i gwsmeriaid dros y degawd diwethaf heb ddatblygu partneriaethau cryf gyda rhanddeiliaid allweddol.

Rwy’n falch o’r berthynas gynhyrchiol rydym ni wedi’i hadeiladu gyda Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr, gan gynnwys yr Arolygiaeth Dŵr Yfed a Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd ag ystod eang o grwpiau, gan gynnwys Fforwm (Diwydiant) Dŵr Cymru, Partneriaeth Amddiffyn Defnyddwyr Cymru a Phartneriaeth Dŵr ac Iechyd Cymru.

Gyda’n gilydd, rydym wedi gallu llywio agenda dŵr i Gymru sy’n addo cyflwyno gwasanaethau gwell, mwy fforddiadwy i ddefnyddwyr, a diogelu ein hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol hefyd.

Wrth reswm, mae llawer mwy i’w wneud o hyd ond rwy’n falch o’r hyn rydym wedi gallu’i gyflawni dros y degawd diwethaf.

Erbyn hyn, mae cwsmeriaid yn ganolog i’r diwydiant dŵr – yr her i’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr a’m holynydd yw sicrhau bod hyn yn parhau, ac i wella perfformiad a gwasanaeth i gwsmeriaid ymhellach.

Diane McCrea

Cadeirydd Pwyllgor Cymru ac Is-gadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (tan 30 Medi 2015)

 

Categories: Cymraeg, Wales