Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CDDŵr) wedi croesawu penodiad hyrwyddwr defnyddwyr newydd i siarad ar ran buddiannau cwsmeriaid dŵr yng Nghymru.
Bydd Tom Taylor yn cychwyn ar ei gyfnod o bedair blynedd fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru CDDŵr ar 1 Hydref ar ôl cael ei benodi gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
Bydd Tom – sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Masnachol gyda’r Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol – yn cynrychioli buddiannau cwsmeriaid Dŵr Cymru Welsh Water, Dŵr Dyffryn Dyfrdwy a Hafren Trent.
Bydd yn olynu Diane McCrea, sydd wedi cadeirio Pwyllgor Cymru ers sefydlu’r CDDŵr fel llais annibynnol cwsmeriaid dŵr a charthffosiaeth ym mis Hydref 2005.
Cafodd ei benodiad groeso cynnes gan Alan Lovell, Cadeirydd y CDDŵr, a ddywedodd: “Edrychwn ymlaen at weld Tom yn chwarae rhan flaenllaw mewn hyrwyddo buddiannau cwsmeriaid dŵr ledled Cymru.
“Mae cwsmeriaid angen llais cryf ac uchel ei barch wrth wraidd y diwydiant dŵr yng Nghymru ac rydym yn hyderus y bydd Tom yn adeiladu ar waith ardderchog Cadeirydd y Pwyllgor, Diane McCrea, sy’n gadael.”
Mae Tom wedi dal nifer o swyddi gweithredol ac anweithredol, gan gynnwys swydd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford.
Cafodd ei benodiad ei wneud yn unol â’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Mae’r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i’r bobl a benodir ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol sylweddol. Nid oedd Tom wedi datgan unrhyw weithgarwch.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch dîm cyfryngau’r CDDŵr ar 0121 345 1005.