Bydd rhywun newydd yn y gadair goch pan fydd y corff gwarchod dŵr, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, yn cyfarfod yn gyhoeddus ddydd Mawrth, 12 Mai.
Bydd y Cadeirydd, Alan Lovell, yn cipio rheolaeth yn gyhoeddus yn ei gyfarfod bwrdd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr cyntaf, ers olynu’r Fonesig Yve Buckland, a orffennodd ddiwedd mis Mawrth, ar ôl deng mlynedd wrth y llyw.
Bydd y cyfarfod yn Victoria Square House yn Birmingham yn gyfle da i gwsmeriaid dŵr ddarganfod sut mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi bod yn gweithio ar eu rhan.
Dywedodd Alan Lovell, Cadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr: “Rwy’n edrych ymlaen at gadeirio fy nghyfarfod cyntaf yn gyhoeddus, wrth i ni fyfyrio ar flwyddyn sydd wedi bod yn heriol, ond llwyddiannus, yn cynrychioli cwsmeriaid dŵr.
“Mae ein hymdrechion i roi cwsmeriaid wrth graidd y broses gosod prisiau ddiweddar wedi cyflwyno buddion sylweddol a byddwn yn eu hadolygu, yn ogystal â thrafod rhai o’r heriau sydd o’n blaen.”
Bydd defnyddwyr dŵr yn cael cyfle i gyflwyno eu materion o ddiddordeb neu eu pryderon, yn ystod sesiwn fer ar ôl i’r cyfarfod ddechrau am 11am.
I gael mwy o wybodaeth neu os ydych yn bwriadu mynychu, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Bwrdd, Miranda Nightingale, ar 0121 345 1042 neu anfonwch neges e-bost at miranda.nightingale@ccwater.org.uk
(DIWEDD)
Cewch bapurau’r bwrdd ar gyfer y cyfarfod yma