Mae cwynion ysgrifenedig gan gwsmeriaid yn erbyn cwmnïau d?r yng Nghymru wedi gostwng unwaith eto, ond maer Cyngor Defnyddwyr D?r yn dweud bod llawer mwy iw wneud o hyd.
Mae Adroddiad Cwynion Ysgrifenedig blynyddol y Cyngor Defnyddwyr D?r wedi datgelu bod cwynion ysgrifenedig yn erbyn D?r Dyffryn Dyfrdwy wedi gostwng mwy na 28 y cant, a bod cwmni d?r mwyaf Cymru, D?r Cymru, wedi gweld gostyngiad o dros 14 y cant.
Gostyngodd cwynion D?r Dyffryn Dyfrdwy ddwywaith mor gyflym âr flwyddyn flaenorol, a gostyngodd cwynion ysgrifenedig D?r Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol, syn golygu eu bod nhw hanner beth oedden nhw yn 2004/05.
Bu gostyngiad am yr ail flwyddyn yn olynol yn nifer cwynion ysgrifenedig Severn Trent Water hefyd, syn gwasanaethu rhai cwsmeriaid yng Nghymru, gostyngiad o bron 14 y cant.
Dywedodd Diane McCrea, Cadeirydd Pwyllgor Cymru y Cyngor Defnyddwyr D?r: Rydym yn falch, yn dilyn pwysau yn y blynyddoedd blaenorol, bod D?r Dyffryn Dyfrdwy wedi gostwng nifer y cwynion ysgrifenedig am yr ail flwyddyn yn olynol. Maer cwmnin mynd ir cyfeiriad iawn i ddychwelyd ir lefelau isel a gyrhaeddodd yn 2005, ond am y tro, mae ganddor ail nifer uchaf o gwynion ysgrifenedig y 10,000 o gysylltiadau ar gyfer cwmni d?r yn unig, ac mae llawer mwy iw wneud i wella ei berfformiad.
D?r Cymru ywr ail gwmni d?r a charthffosiaeth syn perfformio orau yng Nghymru a Lloegr o hyd, ac maen dangos bod y pwysau rydym yn ei roi ar gwmnïau i wella, yn fuddiol. Nid oes lle ar gyfer hunanfoddhad, a byddwn yn parhau i weithion agos gydar ddau gwmni i amlygu ble y gallant wella eu gwasanaethau hyd yn oed yn fwy.
Ledled Cymru a Lloegr, gostyngodd nifer y cwynion ysgrifenedig i gwmnïau d?r a charthffosiaeth am y pumed flynedd yn olynol, er bod y gostyngiad o 7.4 y cant yn arafach nar gostyngiad o 12 y cant yn y flwyddyn flaenorol.
Mae galwadau ffôn gan gwsmeriaid i gwmnïau i ddatrys problemau wedi gostwng hefyd yn yr un modd â chwynion ysgrifenedig, gydag arafu tebyg yn y duedd honno eleni.
Bilio a chostau ywr maes pryder mwyaf i gwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr o hyd, syn cyfrif am dros 56 y cant or cyfanswm o 150,942 o gwynion ysgrifenedig a wnaeth yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2013.
Ac wrth i gyfyngiadau prisiau d?r ar gyfer 2015 i 2020 gael eu cytunor flwyddyn nesaf, maer Cyngor Defnyddwyr D?r wedi rhybuddio cwmnïau y gallent wynebu adlach gyda chwynion cwsmeriaid os byddant yn methu â chyflwyno gwerth am arian clir.
(Diwedd)
I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch Tim Clarke neu Kate Eccles ar 0121 345 1005/1006
Nodiadau i olygyddion
Gellir gweld yr adroddiad llawn yma
- Maer adroddiad yn monitro cwynion ysgrifenedig i gwmnïau d?r a charthffosiaeth, a dderbynnir trwy lythyr, ffacs neu e-bost.
- Nid yw cwynion dros y ffôn wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn, ond mae cwmnïau d?r yn cofnodi cysylltiadau digroeso, lle mae cwsmeriaid wedi gorfod ffonio cwmni i geisio datrys problem. Maer galwadau hyn wedi dilyn patrwm gostwng tebyg i gwynion ysgrifenedig.
- Gr adroddiad yn cymharu eu perfformiad yn ôl cwynion y 10,000 o gysylltiadau cwsmeriaid.
- Ers ei sefydlu yn 2005, maer Cyngor Defnyddwyr D?r wedi helpu mwy na 300,000 o gwsmeriaid gyda chwynion neu ymholiadau yngl?n â gwasanaethau d?r a charthffosiaeth, ac wedi sicrhau dros £16 miliwn mewn iawndal ac ad-daliadau.