Anogir cwsmeriaid d?r ledled Cymru a Lloegr i ymuno â miloedd o gartrefi sydd eisoes wedi defnyddio cyfrifiannell ar-lein y Cyngor Defnyddwyr D?r i weld a fyddai newid i fesurydd d?r yn arwain at arbedion mawr.
Mae oddeutu 50% or cwsmeriaid sydd wedi defnyddior gyfrifiannell wedi canfod y gallent wneud arbedion posibl trwy newid i fesurydd.
Ers ei lansio fis Ebrill diwethaf, mae cyfrifiannell hawdd iw ddefnyddio’r Cyngor Defnyddwyr D?r, syn gorff gwarchod, wedi helpu bron 25,000 o gwsmeriaid d?r i ganfod arbedion posibl ar eu biliau d?r, o oddeutu £4.8 miliwn.
Ar gyfartaledd, cynyddodd biliau d?r £13 y mis diwethaf, felly, nid yw erioed wedi bod yn amser callach i gartrefi ddefnyddior gyfrifiannell, syn cynnwys costau mesuryddion diweddaraf 2013/14.
Maer gyfrifiannell ar gael ar hafan gwefan y Cyngor Defnyddwyr D?r ar www.ccwater.org.uk, a gellir ei chyrchu trwy ystod eang o lwyfannau, gan gynnwys ffonau clyfar a llechi. Gall pobl heb fynediad at y rhyngrwyd gysylltu â chynrychiolydd y Cyngor Defnyddwyr D?r ar 0121 345 1000, a fydd yn gallu eich cynorthwyo.
Dywedodd y Fonesig Yve Buckland, Cadeirydd y Cyngor Defnyddwyr D?r: Gan fod biliau d?r 2013/14 wedi cynyddu gan £13 y mis diwethaf ar gyfartaledd, gallai defnyddio cyfrifiannell mesuryddion d?r y Cyngor Defnyddwyr D?r fod yn ffordd o leihaur defnydd o dd?r ac arbed arian. Diwedd