Datganiad ir Wasg 11 Mawrth 2013 Swyddfar Wasg: Kate Eccles – 0121 345 1006 Cyngor Defnyddwyr D?r: 0623
A allai ein hawgrymiadau arbennig eich helpu i arbed arian?
Os ydych chin defnyddio d?r yng Nghymru ac yn wynebu cynnydd o rhwng £7 ac £11 ar fil d?r eich cartref yn 2013/14 ar gyfartaledd, dylech gael cip ar awgrymiadau arbennig y Cyngor Defnyddwyr D?r i weld a allwch arbed arian.
Wrth ir biliau eich cyrraedd, maer Cyngor Defnyddwyr D?r am eich helpu i gael gwerth gorau am arian drwy ddarllen ein hawgrymiadau arbennig – gallair rhain leddfu effaith biliau uwch drwy eich helpu i fanteision llawn ar y cymorth sydd ar gael.
Os ydych yn talu ar sail gwerth ardrethol ac nid ar fesurydd
- Os nad ydych yn defnyddio llawer o dd?r, yn enwedig os ydych yn deulu bach neun byw ar eich pen eich hun, gallech arbed arian drwy gael mesurydd. Gall hynny arbed £100 neu fwy y flwyddyn mewn rhai achosion.
- Mae mesuryddion yn cael eu gosod yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid preswyl a chewch newid yn ôl ir hen drefn ymhen blwyddyn os byddwch yn ailfeddwl neu os nad ydych yn arbed cymaint âr disgwyl. Os nad oes modd gosod mesurydd, rhaid ir cwmni gynnig eich rhoi ar gyfradd asesu is.
Mae gan y Cyngor Defnyddwyr D?r gyfrifiannell bil mesurydd d?r ich helpu i weld a allech arbed arian drwy gael mesurydd
Help i bobl syn ennill incwm isel:
- Os ydych yn cael budd-dal ar sail eich incwm, ac mae gennych o leiaf dri o blant dibynnol neu gyflwr meddygol syn golygu bod angen i chi ddefnyddio mwy o dd?r, mae help ar gael e.e. cynllun Cymorth D?r Cymru a chynllun WaterSure D?r Dyffryn Dyfrdwy i gwsmeriaid sydd â mesuryddion.
- Os ydych yn cael rhai budd-daliadau ar sail incwm, ac mae gennych ôl-ddyledion, gallech drefnu i swm penodol och budd-dal gael ei dalun uniongyrchol ir cwmni d?r o dan y Cynllun D?r Uniongyrchol. Os ydych yn gwsmer gyda D?r Cymru, bydd eich bil £25 yn is os byddwch yn dewis talu drwyr cynllun hwn.
- Os ydych yn un o gwsmeriaid D?r Cymru ac mae gennych £150 neu fwy o ôl-ddyledion, hwyrach y byddwch yn gallu cael cymorth o Gronfa Gynorthwyor Cwsmeriaid. O dan y cynllun, os ydych mewn dyled ac yn gwneud taliadau rheolaidd i ostwng y ddyled, gallair cwmni ostwng neu hyd yn oed clirio eich dyled.
Ydych chin talu am wasanaeth nad ydych yn ei dderbyn? Gofalwch nad ydych yn talu am wasanaethau nad ydych yn eu derbyn drwy wneud yn siwr a ydych wedi eich cysylltu âr garthffos. Os nad ydych yn gysylltiedig, mae gennych geubwll neu danc septig yn ôl pob tebyg.
Os oes gennych gyfarpar syn draenio d?r glaw i mewn ir ddaear, gallwch gyflwyno cais i ddileur swm syn cael ei godi am ddraenio d?r wyneb gallai hyn arbed tua £47 y flwyddyn fel arfer.
Arbed d?r ac arbed arian Os ydych eisoes yn defnyddio mesurydd, gall defnyddio d?r yn effeithlon ac osgoi gwastraff arbed arian hefyd gallech ostwng eich bil ynni hefyd drwy ddefnyddio llai o dd?r poeth.
Gallech hefyd arbed arian drwy drwsio tapiau syn gollwng, gosod dyfeisiadau arbed d?r, a chasglu d?r glaw iw ddefnyddio yn yr ardd.
Mae gwefan y Cyngor Defnyddwyr D?r yn rhoi cyngor i bob cwsmer am ddefnyddio d?r yn fwy effeithlon.
Meddai Diane McCrea, Cadeirydd Pwyllgor Cyngor Defnyddwyr D?r Cymru: Fel cwsmeriaid, dylai pob un ohonom gadw llygad ar ein biliau d?r i wneud yn siwr ein bod yn cael y fargen orau bosibl yn ogystal ag unrhyw gymorth ychwanegol gan ein cwmni d?r. Mae ein hawgrymiadau ardderchog yn ffordd dda o atgoffa cwsmeriaid i beidio â thalu mwy nag y dylent am eu d?r au carthffosiaeth ac i gael y gwerth gorau posibl am arian.